Gwasanaethau API

Mae gan y Porth Technolegau Iaith ganolfan gwasanaethau APIs sydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technoleg iaith ar-lein. Darparir y gwasanaethau fel rhyngwyneb rhaglennu (neu ‘API’) sy’n hawdd i’w ddefnyddio o fewn eich meddalwedd a phrojectau Cymraeg a dwyieithog.

Y cyfeiriad yw : https://api.techiaith.org

Dilynwch y ddolen uchod i weld pa wasanaethau sydd ar gael, ac i gofrestru ar gyfer eich allwedd API unigryw. Dyma gyfarwyddiadau ar Sut i gofrestru ar gyfer allwedd API

 

Beth yw ‘API’?

Mae API yn rhyngwyneb hwylus sy’n rhoi mynediad at gydran meddalwedd sydd yn darparu swyddogaethau penodol. Gellir defnyddio un neu gyfres o APIs i adeiliadu system meddalwedd mwy cymhleth.

 

API Ar-lein y Porth Technolegau Iaith

Mae darpariaeth API y Porth Technolegau Iaith yn gweithio ar-lein ac yn eich cysylltu chi fel defnyddiwr gyda’n gweinyddion ni yma yn yr Uned Technolegau Iaith. Yn y modd yma, gallwch ddefnyddio gwasanaethau fyddai fel arfer yn gofyn am lawer iawn o bŵer cyfrifiadurol, neu a fyddai yn anodd i’w gosod a’u ffurfweddu at anghenion gwahanol systemau a dyfeisiau. Oherwydd hyn, mae modd i chi ddefnyddio amrywiaeth eang o galedwedd i gael mynediad at ein gwasanaethau:

  • Tabledi
  • Ffonau symudol Android ac iOS
  • Cyfrifiaduron bwrdd gwaith
  • Gliniaduron

 

Pa Wasanaethau API sydd ar gael?

Mae’r wasanaethau API canlynol ar gael gan y Porth Technolegau Iaith :