CYFIEITHU PEIRIANYDDOL
SAESNEG > CYMRAEG
GYDA Marian NMT

Mae Uned Technolegau Iaith wedi datblygu offer cyfieithu peirianyddol sydd yn defnyddio fframwaith Marian NMT. Mae’r fframwaith yn defnyddio technoleg fodern niwral i gyfieithu testunau. Cliciwch ar y ddolen neu’r ddelwedd i roi cynnig arno:

https://cyfieithu.techiaith.cymru

Rydyn ni wedi darparu project GitHub arbennig ar gyfer Marian NMT fan hyn:

techiaith/ docker-marian-nmt

Mae’r project hwn yn cynnwys popeth sydd ei hangen i redeg peiriant cyfieithu peirianyddol niwral Marian NMT lleol eich hunan. Mae’r feddalwedd i gyd yn god agored ac ar gael o dan delerau’r drwydded MIT.

I redeg cyfieithu peirianyddol lleol yn llwyddiannus, byddwch angen cyfrifiadur â cherdyn graffeg NVIDIA yn ogystal â phecynnau meddalwedd fel Docker a Python wedi’u osod yn barod.

Mae’r peiriant yn defnyddio modelau cyfieithu sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig gan yr Uned Technolegau Iaith i gyfieithu o Saesneg i’r Gymraeg.

Darparir dwy ddull o ddefnyddio’r cyfieithu peirianyddol gan y project. Y gyntaf, drwy wasanaeth API lleol, sydd yn galluogi integreiddio i offer cyfieithu (os yw’r meddalwedd yn caniatáu). Yr ail, drwy demo byw sydd ar gael drwy dudalen we syml sydd yn rhedeg yn gyhoeddus fan hyn:

 

Ar hyn o bryd, mae modd cyfieithu testun dau faes penodol, sef maes Iechyd a gofal, a maes Deddfwriaeth.

 

Cyfieithu Peirianyddol

Cymraeg <> Saesneg

gyda Moses-SMT

 

coin-tinyMae Moses-SMT yn system cyfieithu peirianyddol cod agored a ddatblygwyd yn bennaf ym Mhrifysgol Caeredin. Ariannwyd ymchwil a datblygu Moses-SMT gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n gynnyrch swmpus a phwerus sy’n caniatáu i chi ddatblygu eich systemau cyfieithu peirianyddol eich hun drwy eu hyfforddi gyda chorpora cyfochrog o gyfieithiadau sy’n bodoli eisoes. Mae’n caniatáu i chi greu peiriannau penodol ar gyfer anghenion arbennig eich projectau cyfieithu chi, gan sicrhau cyfieithiadau o ansawdd uchel.

Mae Moses-SMT yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd lle defnyddir cofion cyfieithu eisoes yn llwyddiannus i arbed amser a chostau. I nifer o gyfieithwyr, mae peiriannau Moses-SMT yn cynnig nid yn unig gwell gyfieithiadau na systemau cyfieithu peirianyddol cyffredinol, ond yn profi bod modd bod yn llawer mwy cynhyrchiol gan ddefnyddio ôl-olygu na gan ddefnyddio systemau cof cyfieithu yn unig. O ganlyniad, mae’r defnydd o Moses-SMT yn cynyddu’n sylweddol o fewn y diwydiant cyfieithu rhyngwladol ar hyn o bryd.

Drwy adnoddau’r Porth Technolegau Iaith mae modd i unrhyw un, ond yn enwedig rhai sy’n gweithio yn y diwydiant cyfieithu Cymraeg <> Saesneg, fanteisio o fabwysiadu Moses-SMT yn eu projectau, cynnyrch neu wasanaethau cyfieithu.

Rydym wedi darparu’r adnoddau hyn fel na fydd arnoch angen llawer o allu na gwybodaeth dechnolegol. I weld sut mae cychwyn arni yn rhwydd ac yn hwylus, ewch i’n project arbennig ar GitHub ar gyfer Moses-SMT Cymraeg<>Saesneg:

techiaith/docker-moses-smt